![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | effeithiau newid hinsawdd, disgyblaeth academaidd ![]() |
---|---|
Math | effeithiau newid hinsawdd ![]() |
Mae effeithiau newid hinsawdd ar bobl yn bellgyrhaeddol ac yn ffactor sy'n effeithio iechyd, yr amgylchedd, dadleoli ac ymfudo, diogelwch, cymdeithas, anheddiad dynol, ynni a chludiant. Mae newid hinsawdd wedi arwain at newidiadau na ellir eu gwrthdroi o bosibl i systemau daearegol, biolegol ac ecolegol y Ddaear.[1] Mae'r newidiadau hyn wedi arwain at ymddangosiad peryglon amgylcheddol ar raddfa fawr i iechyd pobl; megis tywydd eithafol, disbyddu osôn[2], mwy o berygl o danau gwyllt,[3] colli bioamrywiaeth,[4] systemau cynhyrchu bwyd yn gwegian, a lledaeniad byd-eang o afiechydon heintus.[5] Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod newidiadau hinsoddol yn achosi dros 150,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn 2002, gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y bydd y nifer hwn yn cynyddu i 250,000 o farwolaethau bob blwyddyn rhwng 2030 a 2050.[6][7]
Mae corff cynyddol o ymchwil sy'n archwilio yr holl effeithiau o newid hinsawdd ar iechyd pobl, ar y cyflenwadau bwyd, twf economaidd, ymfudo, diogelwch, newid cymdeithasol, a hanfodion fel dŵr yfed . Mae canlyniadau'r newidiadau hyn yn fwyaf tebygol o fod yn niweidiol yn y tymor hir. Er enghraifft, mae Bangladesh wedi profi cynnydd mewn afiechydon sy'n sensitif i'r hinsawdd; megis malaria, twymyn dengue, dolur rhydd mewn plant, a niwmonia ymhlith cymunedau bregus.[8] Mae llawer o'r astudiaethau hyn yn awgrymu y bydd effeithiau net newid hinsawdd ar gymdeithas ddynol yn parhau i fod yn hynod o negyddol am ganrif o leiaf.[9][10]
Mae cymunedau incwm gwael ac incwm isel ledled y byd yn profi'r rhan fwyaf o effeithiau andwyol y newid hinsawdd hwn; y gwirionedd yw fod y cymunedau hyn fregus i benderfyniadau amgylcheddol, iechyd, incwm a ffactorau eraill. Mae ganddyn nhw hefyd lefelau capasiti llawer is i ymdopi â newid amgylcheddol. Amcangyfrifodd adroddiad ar effaith ddynol fyd-eang newid hinsawdd a gyhoeddwyd gan y Fforwm Dyngarol Byd-eang yn 2009 fod mwy na 300,000 o farwolaethau a thua $125 biliwn mewn colledion economaidd bob blwyddyn. Mae hyn yn dangos sut mae'r mwyafrif o farwolaethau a achosir gan newid hinsawdd o ganlyniad i lifogydd a sychder yn gwaethygu mewn gwledydd sy'n datblygu . Mae sefydliadau Newid Hinsawdd fel GECCO yn Archifwyd 2021-04-23 yn y Peiriant Wayback. ceisio addysgu pobl a gwneud i eraill sylweddoli'r hyn y gallant ei wneud yn unigol.[11]
The average temperature of the Earth’s surface increased by about 1.4 °F (0.8 °C) over the past 100 years, with about 1.0 °F (0.6 °C) of this warming occurring over just the past three decades
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search